Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol |
Procurement in the foundational economy |
EIS(5)PFE(18) |
|
Ymateb gan Cyngor Llyfrau Cymru |
Evidence from Welsh Books Council |
Ymateb Cyngor Llyfrau Cymru – Medi 2019
Gofynnodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am ein barn ar:
Mae sefydliadau yng Nghymru yn cymryd eu cyfrifoldeb am gaffael o ddifri, ac yn cadw i’r canllawiau a llythyr y ddeddf, ond weithiau ar draul cyflenwyr o Gymru. Mae enghreifftiau lle mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau mawr, sydd yn rhedeg dros gyfnod hir, sydd yn cadw rhai cyflenwyr newydd allan o’r farchnad a ddim yn hybu unrhyw gwmnïau newydd neu galluogi cwmnïau i ehangu. Mae’n rhaid cael y balans yn iawn rhwng cael proses sydd yn agored i bawb, ond hefyd, ddim yn broses sydd yn creu gormod o faich biwrocrataidd.
Mae rhai Cynghorau Sir er enghraifft yn rhoi cytundeb llyfrgelloedd i brynu llyfrau wedi mynd i gwmnïau preifat o Loegr. Dylid edrych am system gydweithredol sydd yn helpu siopau annibynnol i gydweithio (gyda help y Cyngor Llyfrau) i gael y cytundebau mawr, hyd yn oed lle nad ydynt yn gallu cystadlu yn ariannol gyda’r cwmnïau mawr. Mae gan caffael rôl bendant i ddiogelu economi – yn arbennig economi wledig a chynnal y stryd fawr.
Yn yr un modd, mae nifer o ysgolion yn prynu trwy wefannau rhyngwladol, yn bennaf o ran cyfleustra gan nad yw’r pris yn wahanol i brynu o siop lyfrau lleol – yn aml, mae’r siop lyfrau yn rhatach. Nid yw nifer o bryniannau bach gan wefannau rhyngwladol yn cael eu hamlygu ddigon o safbwynt caffael a phe defnid “aggregate” o’r holl bryniannau – byddai yn swm sylweddol o arian cyhoeddus.
Mae’r sector gyhoeddus yn hanfodol i’r economi leol, a dylai pob proses caffael fod yn canolbwyntio ar wariant o Gymru yng Nghymru.
Byddai fframweithiau dros gyfnod llai (e.e. 2-3 mlynedd)– gyda uchafswm mewn faint gellir eu prynu ar fframwaith heb fynd allan i’r farchnad yn caniatáu i ymgeiswyr newydd ddod i’r farchnad. Yn aml, mae fframweithiau yn cael estyniadau o hyd at 5-6 mlynedd, ac felly mae’r nifer o ymgeiswyr sydd yn cael mantais o’r fframwaith yn isel iawn.
Nid oes gan unigolion yng Nghymru yr arian i fuddsoddi mewn arbenigedd tendro, ac felly mae’r cwmnïau mawr yn mynd yn gryfach, a’r cwmnïau bach ddim yn cael cyfle i adeiladu elw i fuddsoddi mewn tendrau pellach.
Mae’n hynod o bwysig fod y nodau statudol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cael eu cyflawni. Dylid rhoi mwy o farciau cynaladwyaeth i gwmnïau cynhelid Gymreig gan fod cost trafnidiaeth yn is, a bod gwariant y cwmnïau hyn yn cynnal y sector yn lleol.
Mae hefyd yn bwysig fod yr iaith Gymraeg yn cael ystyried ym mhob tendr corff cyhoeddus, ac nid dim ond iaith y tendr, ond yng ngallu ieithyddol y darparwr i allu cyflawni’r gwaith yn ddwyieithog. Mae cyrff cenedlaethol (DU) yn meddwl eu bod yn gallu addasu cynllun Prydeinig i Gymru heb ystyried dwyieithrwydd a’r pwysigrwydd i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
Mae tuedd i feddwl fod pris penodol yn cael ei roi ar arbenigedd, gyda rhan helaeth o gytundebau gwasanaethau proffesiynol yn dod o du allan i Gymru. Er mwyn i gwmnïau bach a chanolig allu cystadlu gyda’r cwmnïau cenedlaethol, rhaid iddynt gydweithio a rhaid cael buddsoddiad mewn is-adeiledd sgiliau.
Mae angen edrych ar ffyrdd newydd fod y sector gyhoeddus a’r economi leol yn cydweithio i sicrhau fod gwasanaethau yn parhau er gwaethaf Brexit.
Mae modelau tramor lle mae’r Llywodraeth yn rhan berchen cwmnïau sydd o bwysigrwydd strategol (megis Volkswagen yn yr Almaen). Ni ddylai hyn gael ei weld fel ymyrryd yn y farchnad, ond fod rhai pryniannau o bwysigrwydd economaidd lle na fyddai caffael agored yn fuddiol i’r economi. Dylid manteisio ar opsiynau a gynigir o ffurfio is-gwmnïau masnachol, sydd, dan reolau Teckal yn gallu darparu gwasanaethau lle mae angen strategol ar gyfer y gwasanaethau yma.
Mae’r sector tai â fframweithiau sydd yn cefnogi cwmnïau bach, canolig a mawr, yn ddibynnol ar faint y gwaith, ac mae hyn yn ffordd i sicrhau nad yw’r cwmnïau mawr yn dominyddu’r sector yn llwyr. Rhaid dod o hyd i atebion lle mae caffael yn helpu’r sector gyhoeddus i arbed arian drwy gydweithio.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hapus i roi sylwadau pellach i’r Pwyllgor pe byddai o ddefnydd.
Medi 2019